Gwyfyn cliradain cymharol fawr yw hwn, yn ddu bron i gyd â dau rwymyn melyn cul ar yr abdomen. Mae’r cynffon mawr lliw oren ar ffurf gwyntyll yn nodwedd amlwg. Mae’r lindys yn ymborthi am sawl blwyddyn ar risgl mewnol hen goed bedw.

Bydd y gwyfyn yn hedfan yn ystod y dydd ond anaml iawn y’i gwelir, er y gellir ei ddenu at lith fferomon penodol mewn tywydd heulog. Ffordd well o gofnodi’r gwyfyn yw chwilio am dyllau 5mm ar eu traws ar foncyffion coed bedw, a wneir ganddo wrth iddo ddod allan o’r cocŵn chwilerol sydd o dan y rhisgl. Mae’r tyllau hyn yn parhau am sawl blwyddyn a gellir eu gweld trwy gydol y flwyddyn, ond yr adeg orau i chwilio amdanynt yw diwedd yr haf pan fydd casyn melynfrown y chwiler (yr hengroen neu exuviae) yn dal i ymwthio allan yn aml o’r twll. Casyn y chwiler sy’n rhoi cadarnhad mai Cliradain Gymreig a wnaeth y twll yn hytrach na rhyw drychfilyn arall sy’n turio pren. Mae chwilod corniog yn tyllu boncyffion bedw hefyd, er bod y rhain fel rheol yn mynychu pren sy’n pydru tra bod y Gliradain Gymreig yn defnyddio meinwe fyw yn unig.

Maint a Theulu

  • Teulu – Y Cliradenydd (Sesiidiaid)
  • Canolig ei faint

Statws o ran cadwraeth

  • UK BAP:  heb ei restru
  • Rhywogaeth Flaenoriaethol yng Nghymru (Rhestr ‘Adran 7’)
  • Llyfr Data Coch

Planhigion bwyd y lindys

Y Fedwen Lwyd a’r Fedwen Arian

Dosbarthiad

  • Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Iwerddon a Chymru
  • Yng Nghymru fe’i ceir yn ne Meirionnydd a gogledd Sir Drefaldwyn yn bennaf, tra bod poblogaethau mwy ynysedig i’w cael ymhellach i’r de yn Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog. Fe’i ceir hefyd yng nghanolbarth yr Alban (Swydd Perth, Swydd Inverness a Sutherland), de orllewin Iwerddon (Swydd Ceri) ac ar ddau safle a ddarganfuwyd yn ddiweddar yng nghanolbarth Lloegr (Cannock Chase a Choedwig Sherwood).

Cynefin

Porfeydd ar fryniau lle y mae hen goed bedw gwasgaredig. Hefyd mewn coetiroedd bedw agored ac ar weundiroedd coediog.


Ffeithlenni

Y Gliradain Gymreig

Cliradain Gymreig ar ei llawn dwf

Cliradain Gymreig* (Synanthedon scoliaeformis)

Twll dianc Cliradain Gymreig

Twll dianc Cliradain Gymreig* (Synanthedon scoliaeformis)

Casyn chwiler Cliradain Gymreig

Casyn chwiler Cliradain Gymreig* (Synanthedon scoliaeformis)